Partneriaid Cyflenwi
FOCUS Wales
Mae FOCUS Wales yn ŵyl rhyngwladol aml lleoliad a gynhelir yn Wrecsam pob blwyddyn, sy’n anelu goleuni’r diwydiant cerddoriaeth heb os ar y doniau newydd sy gan Gymru’n dod i’r amlwg i gynnig i’r byd. Mae FOCUS Wales 2026 yn nodi 16eg blwyddyn yr ŵyl – a bydd y 16eg tro yn croesawu dros 25,000 o bobl i’r dref, gan adeiladu ar record y nifer o fynychwyr yn 2025 ar draws llond penwythnos o ddigwyddiadau. Does unlle’n debyg i Wrecsam yn ystod FOCUS Wales, wrth inni arddangos 250 a mwy o fandiau, llenwi amrywiaeth o lefydd a lleoliadau i gerddoriaeth, gan wneud defnydd o 20 llwyfan, yn ogystal a chynnig sesiynau rhyngweithiol diwydiant cerddoriaeth, ffilm a ddigwyddiadau celfyddydol trwy gydol yr ŵyl.
Tŷ Cerdd
Cerddoriath yng Nghymru. Cerddoriaeth o Gymru
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, nod Tŷ Cerdd | Music Wales yw dod â cherddoriaeth Gymreig i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn fyd-eang, amddiffyn treftadaeth gerddorol
Cymru, a gyrru datblygiad cerddoriaeth Gymreig newydd, ar draws genres.
Mae Tŷ Cerdd yn cefnogi crewyr cerddoriaeth trwy lwybrau datblygu talent amrywiol,
ac mae ganddo Stiwdio recordio fewnol, dau label recordio (Tŷ Cerdd Records a Sionci)
ac argraff cyhoeddi. Mae’r sefydliad hefyd yn dosbarthu arian y Loteria ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru,
gan gynnwys cynllun cerddoriaeth draddodiadol newydd, Cronfa Tradd.