Digwyddiadau
Gweler ein digwyddiadau yn isod…

FOCUS Wales at M for Montreal 2023
Bonjour Québec! 🍁 Wythnos yma rydyn ni yn M POUR MONTREAL/M FOR MONTREAL gyda Bethan Lloyd | Mace The Great | ac Otto Aday! Ymunwch â ni ar Gampws Caffi ar gyfer rhwydweithio a’n sioe FOCUS Wales’ ddydd Gwener yma o 10am. Gwybodaeth a thocynnau yn mpourmontreal.com
Wybodaeth welshmusicabroad
FOCUS Wales at LUCfest 2023
你好 Taiwan! Rydyn ni yn Tainan ym mis Tachwedd ar gyfer LUCfest 貴人散步音樂節 2023 i gymryd rhan yn y gynhadledd gerddoriaeth, a bydd gennym Tara Bandito yn arddangos am y tro cyntaf yn Asia! Gwybodaeth yn www.lucfest.com/cy/ #WelshMusicAbroad
Wybodaeth welshmusicabroad
FOCUS Wales at BreakOut West 2023
Helo Canada! Rydyn ni’n ôl yn BreakOut West fis Hydref eleni yn Kelowna, BC, gyda’r Cosmic Dog Fog, Gillie, a Skunkadelic yn arddangos eleni! Mynnwch wybodaeth a thocynnau yn breakoutwest.ca
Wybodaeth welshmusicabroad
FOCUS Wales at Zandari Festa 2023
안녕 Seoul! Rydyn ni nôl yn Ne Korea ar gyfer Zandari Festa (잔다리페스타) ym mis Hydref, ac mae gennym ni un o fandiau ifanc mwyaf cyffrous Cymru yn arddangos, gyda The Royston Club yn chwarae am y tro cyntaf yn Asia🌏 zandarifesta.com
Wybodaeth welshmusicabroad
FOCUS Wales at Reeperbahn 2023
Ymunwch â thîm gŵyl FOCUS Wales yn Sommersalon, Spielbudenpl. 22, Hamburg, ddydd Iau 21 Medi, o 12pm ar gyfer rhwydweithio, gyda sampl o gerddoriaeth newydd orau Cymru i ddilyn.
RSVP – dim ond gydag achrediad Reeperbahn y mae mynediad yn ddilys
12pm FOCUS Wales: rhwydweithio
1pm CVC
2pm GILLIE
3pm MACE THE GREAT
4pm ADWAITH
MAE ANGEN RSVP OS HOFFECH GYRCHU EIN DIODYDD RHWYDWEITHIO o 12pm – nes bod y diodydd wedi dod i ben… felly dewch yn gynnar!
RSVP welshmusicabroad
FOCUS Wales at SXSW 2023
Ymunwch â’r tîm sy’n gyfrifol am ŵyl FOCUS Wales yn The Creek & The Cave, Austin, ar ddydd Iau, Mawrth 16eg, o 7:30yh am ddiodydd cyfarch a rhwydweithio (dewch yn gynnar i beidio â cholli allan), gyda sampl o’r gorau o gerddoriaeth o Gymru i ddilyn o 8:00yh
RSVP YMA
Mynediad RSVP yn ddilys ond trwy achrediad SXSW yn unig
Er y gall mynychwyr gŵyl SXSW barhau i gael mynediad i’r lleoliad ar gyfer yr arddangosiad heb RSVP, mae ANGEN YR RSVP YMA AR GYFER Y DIODYDD CYFARCH o 7:30yh – hyd nes bod dim diod ar ôl – felly cofiwch ddodd yn gynnar er mwyn peidio â methu allan!
+ NODER: MAE DERBYNIAD DIODYDD CYFARCH AR AGOR I HOLL DDEILIAID PAS SXSW
AC MAE’R DERBYNIAD YN AGORED I BAWB DROS 21 OED YN UNIG.
Yn cyflwyno amserlen arddangos FOCUS Wales @ SXSW:
01:00yb PANIC SHACK
12:10yb ADWAITH
11:20yh ALASKALASKA
10:30yh N’FAMADY KOUYATE
9:40yh THE TRIALS OF CATO
8:50yh EDIE BENS
8:00yh CHROMA
7:30yh Derbyniad Diodydd FOCUS Wales yn y bar blaen!
YR AMGYLCHEDD
Mae FOCUS Wales yn benderfynol o leihau allyriadau tŷ gwydr a gwneud eu gwaith yn fwy cynaliadwy, ac fel rhan o’r bwriad yma, maen nhw wedi ymrwymo i wrthbwyso holl effaith carbon yr arddangosiad eleni yn SXSW. Darllenwch am y gwaith rydyn ni’n ei wneud YMA
Mae FOCUS Wales yn SXSW gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymru Greadigol, a Llywodraeth Cymru. Mae ein partneriaid prosiect hefyd yn cynnwys Filmcafe, a Croeso Cymru.
#CerddoriaethGymreigDramor
Mynnwch docynnau welshmusicabroad