Mae Tŷ Cerdd yn anelu at gyflawni 3 nod pwysig:
- i ddod â cherddoriaeth Cymru i gynulleidfaoedd ar draws ein cenedl, ac i weddill y byd.
- i ddiogelu cynhysgaeth cerddoriaeth Cymru o’r gorffennol, i feithrin cerddoriaeth Cymru’r presennol, ac i yrru datblygiad cyfansoddiad newydd.
- i gefnogi’r sector proffesiynol a’r rheini nad ydynt yn broffesiynol, perfformwyr a chynulleidfaoedd, i berfformio, cyfansoddi a phrofi cerddoriaeth Cymru.
Mae Trac Cymru yn hybu diddordeb, magu talent a chyflwyno’r gorau o gerddorion gwerin Cymru drwy’r byd. Rydym yn cynnal cyrsiau un-dydd, a chyrsiau preswyl i helpu’r rhai brwdfrydig a phroffesiynnol i hogi eu sgiliau ac i ddatblygu talent ar draws ein celfyddydau traddodiadol. Fe’n gwelir ni’n gweithio mewn ysgolion, cymunedau, ar feysydd gwyliau ac mewn arddangosfeydd rhygwladol i sicrhau fod y celfyddydau traddodiadol yn Nghymru yn parhau i gyfoethogi bywyd, beth bynnag eich hoedran, cefndir, hil neu iaith.
Mae FOCUS Wales yn ŵyl rhyngwladol aml lleoliad a gynhelir yn Wrecsam pob blwyddyn, sy’n anelu goleuni’r diwydiant cerddoriaeth heb os ar y doniau newydd sy gan Gymru’n dod i’r amlwg i gynnig i’r byd. Mae FOCUS Wales 2023 yn nodi 12fed blwyddyn yr ŵyl – a bydd y 12fed tro yn croesawu dros 20,000 o bobl i’r dref, gan adeiladu ar record y nifer o fynychwyr yn 2021 ar draws llond penwythnos o ddigwyddiadau. Does unlle’n debyg i Wrecsam yn ystod FOCUS Wales, wrth inni arddangos 250 a mwy o fandiau, llenwi amrywiaeth o lefydd a lleoliadau i gerddoriaeth, gan wneud defnydd o 20 llwyfan, yn ogystal a chynnig sesiynau rhyngweithiol diwydiant cerddoriaeth, ffilm a ddigwyddiadau celfyddydol trwy gydol yr ŵyl.