Amdanom Ni
Mae Cerddoriaeth Gymreig Dramor yn cael ei yrru gan bartneriaeth rhwng FOCUS Wales, TRAC, a Tŷ Cerdd. Creu cyfleoedd i artistiaid a’r diwydiant i ymgysylltu â marchnadoedd cerddoriaeth ledled y byd.
Gyda chyfoeth o brofiad rhyngddon ni o weithio’n rhyngwladol, ac yn dilyn blynyddoedd lawer o gydweithio positif trwy nifer o brosiectau, yn gynnar yn 2023, daeth ein mudiadau at ei gilydd i lunio cynllun uchelgeisiol a fydd yn ein gweld ni’n gweithio mewn partneriaeth i hyrywyddo ein gwaith rhyngwladol wrth symud ymlaen, trwy gyfrwng Cerddoriaeth Gymreig Dramor.
Trwy rannu ein profiad, gwybodaeth, a rhwydweithiau cyfunol, ein nod ydy creu cyfleoedd rhyngwladol cynyddol i’r holl artistiaid a’r diwydiant sy’n gweithio o fewn i’r sector gerddoriaeth yng Nghymru, i hybu eu datblygiad artistig ac, yn y pen draw, creu gyrfaoedd mwy cynaliadwy i’r rhai hynny sy’n dymuno gweithio oddi fewn i’r sector.
Rydyn ni wedi’n hymrwymo i ddiwydiant cerddoriaeth gynhwysol gyda chyfleoedd i bawb, ac yn ymrwymedig i gymryd agwedd gyfrifol, yn amgylcheddol. tuag at y gwaith hwn.